DATGANIAD CENHADAETH
I gefnogi, datblygu a hyrwyddo bandiau pres ar draws Cymru
Croeso i wefan Bandiau Pres Cymru – rhywle i ddarganfod gwybodaeth ynglŷn â phob peth yn gysylltiedig â bandiau pres yng Nghymru. Yn briodol i fandiau, chwaraewyr, gweinyddwyr a chefnogwyr y mudiad.
Mae’r wefan yn cael ei diweddaru yn gyson, er mwyn rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd, adnoddau, newyddion ac achlysuron, cyfleoedd i gyfathrebu a chyd-weithio gyda chyd-aelodau a rhanddeiliaid, a llawer, llawer mwy.
Fel y mae ein Datganiad Cenhadaeth yn amlwg yn nodi, nod Bandiau Pres Cymru yw ymgysylltu â chymaint o sefydliadau ac unigolion perthnasol, i gynrychioli’r mudiad ar bob lefel, er mwyn atgyfnerthu a thyfu, gan sicrhau felly ein bod ni a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau y difyrrwch pleserus a gwerth chweil o fod yn aelod o fand am nifer o flynyddoedd i ddod.
Hoffwn eich cael chi fel rhan o’r tîm. Cofrestrwch gyda Bandiau Pres Cymru heddiw!
Trydar diweddaraf
Newyddion diweddaraf
Bandiau Cymreig yn rhagori yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol
Cafwyd canlyniadau gwych i’r 3 band o Gymru a fu’n cystadlu ym Mhrif Adran Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol, a gynhaliwyd ddoe yn Neuadd Albert yn Llundain. Llongyfarchiadau i Fand y Cory (3ydd safle), Band Tref Tredegar (4ydd) a Band Llwydcoed (7fed) a’u...